Mae cynghorau cymuned a thref yw lefel sylfaenol llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r testun canlynol yn cael ei gymryd gan y Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol (NALC) dogfen (Beth all Cynghorau ei wneud?)

Yn debyg iâr holl bwerau syân cael eu rhoi i gyrff cyhoeddus, mae pwerau cynghorau lleol wediâu diffinioân fanwl mewn deddfwriaeth a gallaiâr manylion hyn gynnwys gofyniad i gael caniatad corff arall i wneud rhywbeth (er enghraifft, sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor Sir i ddarparu maes parcio). Rhaid i Gynghorau Lleol arfer eu pwerau yn unol a darpariaethau cyfraith gyffredinol (er enghraifft, rhaid cael caniatad cynllunio i godi pafiliwn chwaraeon). Clerc y Cyngor syân cadwâr holl fanylion hyn.

Pwerau
Rhestrir y pwerau yn nhrefn yr wyddor. Os gwelwch chi seren wrth bwer, gallaiâr Cyngor, yn ogystal ag arfer y pwer ei hun, helpu corff arall i weithredu drwy roi cymorth ariannol.

  • Achosion Cyfreithiol – Pwer i erlyn ac amddiffyn pob achos cyfreithiol er budd y trigolion. Pwer i gymryd rhan ym mhob ymchwiliad cyhoeddus lleol.
  • *Adloniant – Pob ffurf ar adloniant cyhoeddus ym mhob mangre. (Mae hyn yn cynnwys cynnal bandiau a cherddorfeydd a hwyluso dawnsio).
  • Arwyddion â Pwer i godi arwyddion syân rhybuddio ynglyn a pheryglon neu syân cyhoeddi enw lle, neu arwydd ar safle bws.
  • *Atal troseddau – gosod cyfarpar a chreu cynlluniau i ddod o hyd i droseddau neu er mwyn eu hatal; rhoi grantiau i awdurdod yr heddlu at y dibenion hyn.
  • Baddonau – Darparu baddonau a thai golchi (a allai olygu launderette yn yr oes fodern).
  • Benthyca – Gall Cynghorau Plwyf, Tref a Chymuned fenthyca am hyd at 25 mlynedd drwy ganiatad benthyca. Rhaid iâr Cyngor gael caniatad cyn benthyca.
  • *Caeau Chwarae â Darparu a chynnal a chadw tir at holl ddibenion hamdden awyr agored, gan gynnwys pyllau cychod.
  • *Clociau a chynnal a chadw clociau cyhoeddus, ar eglwysi ac mewn mannau eraill.
  • Cynllunio – Mae gan Gynghorau Lleol hawl i gael eu hysbysu ynglyn a phob cais cynllunio syân effeithio ar eu hardaloedd ac i gynnig sylwadau y maeân rhaid iâr awdurdod lleol eu hystyried.
  • *Datblyguâr celfyddydau a gwella dealltwriaeth ynglyn aâr celfyddydau aâr crefftau syân gwasanaethuâr celfyddydau.
  • Goleuadau – Darparu a chynnal a chadw pob golau ar hyd ffyrdd neu balmentydd, ar yr amod nad ywâr polion dros ryw uchder penodol.
  • Hawliau Tramwy â Cynnal a chadw llwybrau troed a llwybrau ceffylau.
  • *Lawntiau Pentref â pwerau i gynnal a chadw lawnt y pentref neu dref.
  • Lotmenti – Darparu a chynnal lotmenti at ddibenion trin y tir.
  • Llefydd Parcio – Darparu a rheoli meysydd parcio i geir a beiciau.
  • *Llochesi â Darparu a chynnal a chadw llochesi at ddefnydd cyffredinol y cyhoedd ac yn arbennig hefyd i deithwyr bysiau.
  • Mannau Agored – Darparu a chynnal a chadw mannau cyhoeddus, meysydd adloniant a llwybrau troed cyhoeddus.
  • *Mynwentydd – Darparu a chynnal a chadw mannau claddu, mynwentydd, marwdai ac ystafelloedd post-mortem.
  • Mynwentydd Eglwysi – Pwer i gyfrannu at gostau mynwent eglwys syân cael ei defnyddio a dyletswydd i gynnal a chadw pob mynwent eglwys sydd wediâi chau os yw Eglwys Loegr wedi trosglwyddoâr ddyletswydd honno.Botwm *Neuaddau – Darparu adeiladau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus, i fwynhau campau dan do neu weithgarwch corfforol, neu at ddefnydd clybiau neu gymdeithasau sydd ag amcanion hamdden, cymdeithasol neu athletaidd.
  • *Nofio â Darparu pyllau nofio mewnol neu allanol.
  • Parciau – Darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus a chyfleusterau priodol.
  • Post a Ffon – Pwer i warantuâr awdurdodau post neu ff´n yn erbyn colled mewn cyfleuster.
  • Pwer Gwario Cyffredinol – mewn unrhyw sefyllfa nad yw wediâi chynnwys yn y pwerau penodol a ddisgrifir uchod, gall cyngor wario arian at bob diben sydd, yn ei farn ef, o fudd uniongyrchol iâw ardal neu iâw drigolion. Ni all y cyngor wario mwy na £5.00 y pen am bob etholwr llywodraeth leol yn y plwyf, y dref neuâr gymuned ar yr achosion syân codi dan y pwer cyffredinol hwn (ers 1/4/00).
  • *Pyllau â Pwer i ddelio a phyllau neu lefydd eraill syân cynnwys baw neu fater syân niweidiol i iechyd pobl.
  • *Seddi â Darparu a chynnal a chadw seddi cyhoeddus ar y briffordd.
  • *Sbwriel – Darparu biniau sbwriel mewn strydoedd a rhoi cymorth i ymgyrchoedd syân gweithredu yn erbyn sbwriel.
  • Tai Bach Cyhoeddus â Darparu a chynnal a chadw pob ty bach cyhoeddus.
  • Tawelu traffig â cyfrannu tuag at gostau gwaith tawelu traffig gan awdurdod y priffyrdd.
  • Tiroedd Comin – Pwer i ddiogelu pob darn o dir comin sydd wediâi gofrestruân derfynol nad oes perchennog cofrestredig arno.
  • *Trafnidiaeth – creu cynlluniau rhannu ceir a gostyngiadau tacsis; rhoi grantiau i wasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau bysiau i bobl hyn neu bobl anabl, ymchwilio i drafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth ac anghenion y ffyrdd a thraffig; darparu gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
  • *Twristiaeth â Darparu cyfleusterau cynadledda ac annog twristiaeth hamdden a busnes.
  • Ymylon Ffordd â Pwer i blannu ymylon ffordd aâu cynnal.

Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins